Claire Pooley
Swyddog Prosiect Bioamrywiaeth
Mae Blaenau Gwent yn cynnal amrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd yn rhedeg o goetir hynafol lled-naturiol i borfa asid heb ei gwella a gweundir. Mae ardaloedd helaeth o gomin hefyd sy’n adnoddau pwysig i fywyd gwyllt yn ogystal ag amaeth ac adloniant, a llynnoedd a phyllau niferus sy’n arbennig o bwysig i amffibiaid, anifeiliaid di-asgwrn-cefn, ac adar. Mae adfer tir diffaith yn y cylch wedi rhoi cryn gyfleoedd i fywyd gwyllt trwy greu cynefinoedd. Er enghraifft, mae ardaloedd newydd o weundir wedi darparu cynefin pwysig i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt fel yr ehedydd, y betrisen, y glöyn llwyd a’r wiber.
|

|
Bydd Partneriaeth Bioamrywiaeth Blaenau Gwent yn cyfarfod bob chwarter ac mae’n cynnwys: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, BSBI, BTCV Cymru, Cadwraeth Glöynnod Byw, Coed Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Y Comisiwn Coedwigaeth, Grŵp Ystlumod Gwent, Grŵp Moch Daear Gwent, Cymdeithas Adaregol Gwent, Heddlu Gwent, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, T.R.A. Lower Arael View, RSPB Cymru, Gwarchodfa Tylluanod a Bywyd Gwyllt Cymru a Dŵr Cymru.
Mae’r Cynllun Gweithredu Lleol ar Fioamrywiaeth yn rhoi fframwaith ar gyfer gwrthdroi dirywiad adnodd bywyd gwyllt Blaenau Gwent ac mae’n cynnwys 14 Cynllun Gweithredu ar Gynefinoedd a 21 Cynllun Gweithredu ar Rywogaethau.
Cysylltwch â ni:
Blaenau Gwent County Council
Environment and Development Department
Business Resource Centre
Tafarnau Bach Industrial Estate
Tredegar
NP22 3AA
Ffôn: 01495 355 779
Ebost: Claire.Pooley@blaenau-gwent.gov.uk
Gwefan: Clicwch yma
Dolen i tudalennau gwe UKBAP: Clicwch yma