Yn lleol i chi > 1.Ynys Môn

Ynys Môn

Lowri Roberts
Swyddog Bioamrywiaeth

Mae nifer o gynefinoedd blaenoriaethol ar Ynys Môn gan gynnwys Rhostir Isel ac Arfordirol, Gwelyau Cyrs, Corstiroedd, Coetiroedd Collddail, Perthi Hynafol a Chyfoethog eu Rhywogaethau, Pyllau ac Ymylon Ffyrdd Llawn Blodau; a rhai o’r twyni tywod mwyaf helaeth yng Nghymru. Dyma un o gadarnleoedd rhai rhywogaethau prin, gan gynnwys y Fadfall Ddŵr Gribog, y Wiwer Goch, y Dyfrgi, Llygoden Bengron y Dŵr a’r Frân Goesgoch, gyda chynlluniau gweithredu ar gyfer pob un ohonynt.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, CCGC, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Y Comisiwn Coedwigaeth, Menter Môn, RSPB, Ymwybyddiaeth Forol Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Adran Amaethyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Grŵp Amffibiad ac Ymlusgiad Gogledd-orllewin Cymru ac eraill; hyd yma, mae’r Fforwm yn cyfarfod yn flynyddol.

Rhai prosiectau sy’n cynorthwyo cyflawni’r Cynllun Gweithredu Lleol ar Fioamrywiaeth hyd yn hyn: Arolwg Gwrychoedd Dwyrain Ynys Môn, symud toriadau ymylon ffyrdd blodeuog, cymorth ariannol Cronfa Cyfleoedd Newydd ar gyfer cynorthwyo diogelu coetir hynafol ar safle GNL ac adfer a chreu pyllau ar gyfer Madfallod Cribog.

Cysylltwch â ni:
Planning & Economic Development Department
Isle of Anglesey County Council
Council Offices
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn: 01248 752439
Ebost: lrxpl@anglesey.gov.uk
Gwefan: Clicwch yma
Dolen i tudalennau gwe UKBAP: Clicwch yma