Anne Butler
Swyddog Prosiectau Bioamrywiaeth
Mae amrywiaeth cyfoethog eithriadol o gynefinoedd i’w gweld ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn rhedeg o glogwyni arfordirol a thraethau i ddyffrynnoedd cysgodol a rhostir agored. Mae buddiant gwarchod natur yr ardal yn sylweddol ac mae’n cynnwys llawer o nodweddion pwysig fel ardaloedd o galchbalmant, coetiroedd, gwrychoedd, dolydd a thir pori, gwelyau cyrs, gweundir, pyllau a chynefinoedd aberol. Mae Conwy hefyd yn cynnal rhywogaethau prin a chlwyfadwy gan gynnwys rhai nad ydynt i’w cael yn unman arall yng Nghymru, fel y gwyfyn rhesog teg, ac eraill nad ydynt i’w cael yn unman arall yn y DU, fel Cotoneaster y Gogarth, sydd ond yn bodoli ar y Gogarth.
|

|