Bioamrywiaeth yng Nghymru

Bioamrywiaeth yng Nghymru

Yng Nghymru, mae yna amrywiaeth aruthrol o gynefinoedd i’w cael, ac mae’r planhigion a’r anifeiliaid a geir yma’n cynnwys nifer o rywogaethau nodedig. Yn wir, mae llawer o’r rhywogaethau a’r cynefinoedd hyn yn bwysig yn genedlaethol, yn Ewropeaidd ac yn rhyngwladol, felly mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb dros sicrhau ein bod yn gwarchod ein bioamrywiaeth – ar gyfer y genhedlaeth sydd ohoni ac ar gyfer y dyfodol.

O’n blaenau ceir nifer o sialensiau anodd. Yr hyn sy’n hanfodol i ni ei wneud yw gwarchod y llefydd sy’n gartrefi i fywyd gwyllt, er mwyn sicrhau bod y llefydd hyn mewn cyflwr da ar gyfer bywyd gwyllt a phobl fel ei gilydd. Mae llawer o rywogaethau ymledol ac anfrodorol yn bygwth ein bywyd gwyllt ar y tir ac o amgylch yr arfordir. Mae adar tir fferm yn dirywio, mae niferoedd ein gwenyn a’n gloÿnnod yn lleihau, ac rydym angen cael darlun gwell o’r hyn sy’n digwydd i’r bywyd morol dan y dŵr

Dull Ecosystemau

Rydym yn dod i ddeall fwy a mwy fod angen mabwysiadu dull ecosystemau i gael budd bioamrywiaeth a hynny ochr yn ochr ag amcanion cymdeithasol ac economaidd ehangach.

Mae dull ecosystemau yn cynnig fframwaith ar gyfer edrych ar ecosystemau cyfan wrth wneud penderfyniadau, ac ar gyfer gwerthfawrogi’r gwasanaethau ecosystem maent yn eu cynnig. Bydd hyn yn sicrhau y gall cymdeithas gynnal amgylchedd naturiol iach a gwydn yn awr ac i’r cenedlaethau sydd i ddod.

Mae Cymru’n gweithio gyda phartneriaid eraill y DU i gynhyrchu Asesiad Ecosystem Cenedlaethol a fydd yn ddylanwad ac yn sail i waith yn y dyfodol. Gellir cael mwy o fanylion ar wefan Defra ynghyd â chynlluniau pwysig eraill yn cynnwys gwiath rhaglen ymchwil Economeg Ecosystemau a Bioamrywiaeth (TEEB)

Dolenni

Fframwaith Bioamrywiaeth Cymru

Dull Ecosystemau’r DU

Rhaglen Ymchwil TEEB

Asesiad Ecosystemau’r Mileniwm

Ebost:
Allweddair:
Gyrrwch y cyfrinair