Bygythiadau Cyfoes
Mae rhywogaethau, safleoedd a chynefinoedd dan fygythiad yn sgil nifer o wahanol bethau. Yn aml, ceir cysylltiad rhwng y bygythiadau hyn, ac mae’r naill yn atgyfnerthu’r llall. Er enghraifft, gall colli cynefinoedd fod yn niweidiol i un rhywogaeth, ond hefyd gall fod yr un mor niweidiol i ecosystemau a chymunedau cyfan, gan eu gwneud yn llai abl i ymdopi efo newid hinsawdd.
Newid hinsawdd
Mae ein hinsawdd yn cynhesu ac mae tywydd eithafol i’w weld yn amlach. Fe allai cynefinoedd fel gwlyptiroedd sychu; gallai ein coetiroedd gynnwys llai o goed; ac fe allai glaswelltiroedd a gweundiroedd gynnau tân yn haws. Mae’r effeithiau ar rywogaethau’n anos i’w proffwydo. Fe allai rhai rhywogaethau fod ar eu hennill wrth i’r hinsawdd gynhesu, er enghraifft y crëyr bach, britheg y gors a’r ystlum pedol lleiaf. Ond fe fyddai rhai ar eu colled, gan gynnwys y rugiar ddu a rhedynen-Woodsia hirgul (planhigyn prin sy’n hoffi amodau oerach), ac fe fyddai niferoedd môr-hwyaid duon a rhydwyr sy’n ymweld â’r wlad yn y gaeaf yn lleihau.
Dinistrio a diraddio cynefinoedd
Mae nifer o ddolydd blodeuog wedi'u eu colli, ac mae llawer o wrychoedd a choed wedi cael eu clirio, yn arbennig ers 1945. Erbyn hyn, mae ein cynefinoedd yn fwy darniog, gan ei gwneud yn anodd i rywogaethau addasu i newid hinsawdd. Gwelir bod rhywogaethau allweddol yn diflannu’n sydyn o gynefinoedd a gaiff eu rheoli’n amhriodol, ac mae’r amrywiaeth genetig ymhlith y rheini sy’n aros yn y cynefinoedd hyn yn dirywio, gan eu gwneud yn fwy tebygol o ddioddef heintiau, o gael eu bwyta gan ysglyfaethwyr ac o fethu ag atgenhedlu.
Mae PBC yn ymdrin â gwella cynefinoedd trwy gyfrwng grŵp gorchwyl a gorffen Canlyniad 21. I weld y cynnydd a’r wybodaeth ddiweddaraf am holl grwpiau gorchwyl a gorffen PBC, cliciwch ar y cyswllt grwpiau gorchwyl a gorffen.
Llygredd
Mae llygredd yn yr awyr a gormod o nitradau a ffosffadau yn effeithio ar fywyd gwyllt a chynefinoedd ar dir, mewn afonydd ac yn y môr.
Datblygiadau
Yn aml, caiff diwydiannau, tai, porthladdoedd a ffyrdd eu lleoli mewn mannau sy’n bwysig i fywyd gwyllt. Gall datblygiadau ddinistrio a darnio cynefinoedd, gan gyfyngu ar allu cynefinoedd a rhywogaethau i ymdopi efo newid hinsawdd. Er mwyn sicrhau y bydd bywyd gwyllt a phobl ar eu hennill, rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng datblygiadau a natur.
Newidiadau mewn arferion ffermio
Mae ffermio dwys a hau cnydau yn yr hydref wedi cael gwared â ffynhonnell fwyd bwysig i adar tir fferm. Fe allai’r pwysau i gynhyrchu cnydau biodanwydd effeithio ar Gymru – ac efallai y bydd llecynnau sydd wedi’u rhoi o’r neilltu, ac sy’n hafanau pwysig i fywyd gwyllt, yn cael eu colli.
Rhywogaethau ymledol anfrodorol
Rhywbeth sy’n peri cryn bryder yw’r bygythiad sy’n wynebu pryfed brodorol; yn wir, dyma un o’r prif fygythiadau sy’n dod i’r amlwg o safbwynt amrywiaeth biolegol. Mae’r fuwch goch gota harlecwin (harmonia axyridis), er enghraifft, yn rhywogaeth ymledol dros ben, ac mae’n cael y gorau ar ein buwch goch gota frodorol, gan fwyta pryfed brodorol a’u larfâu. Dyma enghreifftiau eraill: mincod, rhedyn y dŵr, clymog Japan, ewinedd moch a chimychiaid-yr-afon America. Gan ystyried hefyd effeithiau newid hinsawdd, disgwylir i fwy a mwy o rywogaethau gyrraedd ein gwlad ac ymledu i’n hecosystemau brodorol, gan newid eu cymeriad a chostio miliynau i’r economi er mwyn cael gwared â nhw.
Mae PBC yn ymdrin â rhywogaethau anfrodorol ac ymledol trwy gyfrwng grŵp gorchwyl a gorffen. I weld y cynnydd a’r wybodaeth ddiweddaraf am holl grwpiau gorchwyl a gorffen PBC, cliciwch ar y cyswllt grwpiau gorchwyl a gorffen.
Troseddau Bywyd Gwyllt
Mae pob math o droseddau yn erbyn bywyd gwyllt i’w cael, ond yn gyffredinol mae modd eu dosbarthu o fewn tri math gwahanol: troseddau’n ymwneud â rhywogaethau brodorol sydd mewn perygl neu sydd o bryder cadwraethol; creulondeb tuag at greaduriaid, neu eu herlid; masnach anghyfreithlon mewn rhywogaethau mewn perygl. Mae’r Bartneriaeth Weithredu i Atal Troseddau yn erbyn Bywyd Gwyllt (PAW) yn cynnig arweiniad ar gofnodi a chanfod troseddau bywyd gwyllt o fewn y DU. Corff aml-asiantaethol yw hwn, ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau sy’n gysylltiedig â rhoi’r gyfraith ar waith yn y DU. Ceir blaenoriaethau ar gyfer troseddau bywyd gwyllt yn y DU a blaenoriaethau o’r fath sy’n ymwneud yn benodol â Chymru. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y cyswllt troseddau bywyd gwyllt.
Adolygu'r dulliau o atal ac ymchwilio i droseddau yn erbyn bywyd gwyllt yng Nghymru
Gwybodaeth am droseddau bywyd gwyllt
Achosion o droseddau bywyd gwyllt
WC bywyd gwyllt
Gwefan PAW
Asesiad Tactegol Lefel Uchel Grŵp Troseddau Bywyd Gwyllt y DU
Dolenni
MONARCH - Modelu Ymatebion Adnoddau Naturiol i Newid yn yr Hinsawdd
Gwarchod bioamrywiaeth mewn hinsawdd sy’n newid: arweiniad ar wella’r gallu i addasu
Rhaglen Effeithiau Newid Hinsawdd y DU