Adroddiadau Deffra
‘Gwarchod Bioamrywiaeth – Dull y DU’
Mae’r fframwaith newydd, sef ‘Gwarchod Bioamrywiaeth – Dull y DU’, yn gofyn i fusnesau, y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol o fewn y DU uno gan anelu tuag at nifer o nodau a blaenoriaethau cyffredin er budd bioamrywiaeth. Mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig wedi cytuno ar y fframwaith.
Dyma rai blaenoriaethau cyffredin y mae angen gweithredu ar eu sail: datblygu data, gweithredu wedi’i dargedu er budd cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth, ymgysylltu â phobl, ac annog pobl i newid eu hymddygiad. Fe fydd yn rhaid parhau i gynnwys anghenion bioamrywiaeth ym mholisïau pob un o’r sectorau perthnasol.
Mae’r fframwaith newydd yn nodi ffyrdd y gall unigolion gynorthwyo i hyrwyddo bioamrywiaeth:
Creu, neu annog eraill i greu, llecynnau ar gyfer bywyd gwyllt – gartref, yn eich cymuned leol ac yn eich gwaith.
- Mwynhau eich llecyn bywyd gwyllt lleol.
- Cefnogi gwaith sefydliadau sy’n gwarchod bywyd gwyllt – er enghraifft, treulio amser yn gwirfoddoli gyda’ch ymddiriedolaeth natur leol, neu gymryd rhan yn arolwg Ymddiriedolaeth Adareg Prydain o adar yr ardd.
- Meddwl ddwywaith cyn prynu, er enghraifft swfenîrs bywyd gwyllt ar deithiau dramor, neu gynnyrch sydd wedi tarddu o ffynonellau cynaliadwy.
- Cofnodi’r hyn a welwch, ac yna anfon y canlyniadau i’ch Canolfan Gofnodi Leol.
- Ymarfer eich dyletswyddau dinesig er mwyn sicrhau bod y rheini sy’n cynrychioli eich barn yn adlewyrchu eich pryderon amgylcheddol.
Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion
http://www.defra.gov.uk/wildlife-countryside/pdfs/biodiversity/ConBioUK-Oct2007.pdf
Mae 'Biodiversity Indicators in Your Pocket' ar gael.
Mae’r cyhoeddiad yn cynnwys cyflwyniad ac arolwg o set o ddangosyddion bioamrywiaeth, ynghyd â graff a negeseuon pennawd ar gyfer pob dangosydd. Mae tudalennau’r dangosyddion o fewn y tudalennau gwe hyn hefyd yn darparu asesiadau manwl o’r data a thueddiadau ar gyfer pob dangosydd, yn ogystal â chefndir a chysylltiadau gwe ar gyfer gwybodaeth bellach. Mae copïau caled o’r cyhoeddiad ar gael o gyhoeddiadau Defra drwy e-bostio defra@cambertown.com, a dyfynnu cyfeirnod PB12626; neu fel arall gallwch lawrlwytho copi o’r cyhoeddiad drwy glicio ar y cyswllt isod.
http://www.jncc.gov.uk/page-3923
Mae’r Gweithgor Adolygu Rhywogaethau a Chynefinoedd â Blaenoriaeth a’r Grŵp Adolygu Blaenoriaethau yn argymell y dylid rhoi Rhestr y DU o Rywogaethau a Chynefinoedd â Blaenoriaeth ar waith yn ffurfiol.
Ar ôl llawer o waith caled gan nifer o bobl, erbyn hyn mae’r adroddiad ar gyfer Partneriaeth y DU ar Adolygu Rhywogaethau a Chynefinoedd yn barod, a gallwch ei weld ar wefan Cynllun Gweithredu’r DU ar Fioamrywiaeth. Caiff manylion am ddosbarthiad daearyddol y rhywogaethau, ynghyd â manylion am sut i nodi’r categorïau y dylid rhoi blaenoriaeth iddyn nhw, eu cynnig mewn ffurf ddrafft fel y gellir eu hystyried ymhellach, ac argymhellir y dylid datblygu mwy ar y rhain trwy gyfrwng y broses ymgynghori.
Cliciwch ar y cyswllt canlynol i weld rhestr y DU o gynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth.
http://www.ukbap.org.uk/
Mae strategaethau addasu a chyhoeddiadau’n sôn am yr effaith a gaiff newid yn yr hinsawdd ar fioamrywiaeth wedi’u rhyddhau.
Cliciwch ar y cyswllt i weld y cyhoeddiadau:
www.ukbap.org.uk/Library/BRIG/CBCCGuidance.pdf