Bioamrywiaeth Ewropeaidd a'r Byd
Countdown 2010
http://www.countdown2010.net/
World Wildlife Fund
http://www.wwf-uk.org/core/index.asp
Mae’r Gronfa yn gwarchod rhywogaethau sydd mewn perygl, yn amddiffyn cynefinoedd o dan fygythiad ac yn mynd i’r afael â bygythiadau byd-eang. Rydym yn dod o hyd i atebion tymor-hir sydd o fudd i bobl a byd natur.
UK Overseas Territories Conservation Forum (UKOTCF)
http://www.ukotcf.org/
Diben y Fforwm hon yw hybu cydlyniad yng nghadwraeth y rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid a chynefinoedd naturiol amrywiol sydd dan fwy a mwy o fygythiad yn Nhiriogaethau Tramor y DU. Mae’n ceisio gwneud hyn drwy gynnig cymorth ar ffurf arbenigedd, gwybodaeth a chysylltiad rhwng cyrff an-llywodraethol a llywodraethau, yn y DU ac yn y Tiriogaethau eu hunain
Declining Amphibian Populations Task Force
http://www.open.ac.uk/daptf/index.htm
Cenhadaeth y DAPTF yw pennu natur, graddfa ac achosion y lleihad mewn amffibiaid ledled y byd, a hybu ffyrdd o
Fauna & Flora International (FFI)
http://www.fauna-flora.org/
Dyma gorff cadwraeth rhyngwladol hynaf y byd, a sefydlwyd dros ganrif yn ôl. Yn adnabyddus am ei ddulliau seileidig ar wyddoniaeth, mae’r FFI wedi arloesi mewn gwaith cadwraeth gynaliadwy sy’n delio â phroblemau yn gyfannol, gan gynnig atebion sy’n helpu bywyd gwyllt, y ddynoliaeth a’r amgylchedd yr un pryd. Amcan FFI yw diogelu rhywogaethau ac ecosystemau sydd dan fygythiad dros y byd, gan ddewis atebion sy’n gynaliadwy, yn seiliedig ar wyddoniaeth gadarn ac yn ystyried anghenion dynol.
Plantlife
http://www.plantlife.org.uk/international/index-international.html
Sefydlwyd Plantlife yn 1989, yn dilyn cyfarfod yn Llundain rhwng cadwriaethwyr a botanegwyr a oedd yn teimlo nad oedd digon yn cael ei wneud i ddiogelu planhigion gwyllt a’u cynefinoedd. Dair mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach, Plantlife International oedd un o’r sefydliadau a ddatblygodd y Strategaeth Fyd-Eang ar gyfer Cadwraeth Planhigion. Erbyn hyn mae’r strategaeth yn sail i’n gweithgareddau i gyd. Mae gweithgareddau Plantlife International ar draws y byd yn canolbwyntio ar bedwar prif faes, Ardaloedd Planhigion Pwysig, Planhigion Meddyginiaethol a Bywoliaethau, Polisïau a Strategaethau ac Ysgrifenyddiaeth Planta Europa.
Ymddiriedolaeth y Siarc
http://www.sharktrust.org/
Mae Ymddiriedolaeth y Siarc yn hybu astudio, rheoli a diogelu siarcod a chathod môr. Yr Ymddiriedolaeth yw aelod y DU o’r Gymdeithas Elasmobranciad Ewropeaidd. Yn sgil hynny, mae’n cydweithio gydag aelod-sefydliadau cenedlaethol eraill i gyflawni ei nodau mewn dyfroedd Prydeinig, Ewropeaidd a rhyngwladol. Nod yr Ymddiriedolaeth yw ymuno â grwpiau eraill sy’n ymwneud â materion cadwraeth siarcod a morgathod. Mae’r rhain yn cynnwys pysgotwyr masnachol, pysgotwyr môr hamdden, plymwyr, hwylwyr, a phawb sy’n dymuno sicrhau bod yr anifeiliaid anhygoel yma sydd o dan fygythiad yn goroesi.
Cymdeithas Cadwraeth Morfilod a Dolffiniaid
http://www.wdcs.org.uk/
Y Gymdeithas Cadwraeth Morfilod a Dolffiniaid, y WDCS, yw elusen fwyaf gweithredol y byd (Rhif Cofrestredig 1014705), o ran sicrhau cadwraeth a lles pob morfil, dolffin a llamhidydd (neu Cetacea). Sefydlwyd y WDCS yn 1987, ac mae’n cael ei staffio gan dros 70 o bobl, ynghyd â llawer o wirfoddolwyr, yn ei swyddfeydd yn yr Ariannin, Awstralia, Awstria, Yr Almaen, y DU a’r UDA. Dros y degawd diwethaf, mae’r WDCS wedi ariannu dros 80 o brosiectau maes mewn 40 o wledydd, dros chwe chyfandir. Yn 2006 yn unig, bu’r WDCS yn cefnogi dros 30 o brosiectau ledled y byd.
The Zoological Society of London (ZSL)
http://www.zsl.org/
Elusen yw Cymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) sydd wedi ymrwymo i gadwraeth anifeiliaid a’u cynefinoedd dros y byd. Mae’n gwyddonwyr yn y labordy a’r maes, y timau rheoli anifeiliaid yn y ddwy sŵ a’n milfeddygon yn cyfrannu eu sgiliau a’u profiad eang i gadwraeth ymarferol ac i’r ymchwil gwyddonol sy’n sail i’r gwaith hwn.
Local Action for Biodiversity Project
http://www.iclei.org/index.php?id=lab
Menter fyd-eang yn ymwneud â bioamrywiaeth drefol yw Prosiect Gweithredu Lleol dros Fioamrywiaeth a lansiwyd yn ddiweddar gan ICLEI – Llywodraethau Lleol dros Gynaliadwyedd. Rhoddwyd ar waith yn ninas Cape Town. Dyma’r cam cyntaf mewn rhaglen ehangach gan ICLEI yn ymwneud â bioamrywiaeth. Mae’r prosiect hwn yn anelu at hyrwyddo pwysigrwydd bioamrywiaeth drefol trwy gydlynu’r gwaith o rannu’r profiadau, y llwyddiannau a’r sialensiau y daeth y dinasoedd sy’n cymryd rhan yn y prosiect ar eu traws.