Adnoddau'r Grŵp Dŵr Croyw

Hoff gynefinoedd y rhywogaethau â blaenoriaeth (CGB/BAP) a gysylltir â dyfroedd croyw yng Nghymru, ynghyd â’u dibyniaeth ar ddŵr

Mae dyfroedd croyw’n bwysig i amrywiaeth enfawr o fioamrywiaeth. Ond mae darganfod pa rywogaethau sy’n gysylltiedig â chynefinoedd dŵr croyw arbennig yn gallu bod yn dasg ddyrys iawn. Mae’r Grŵp Dŵr Croyw wedi creu taenlen i geisio cyfarwyddo camau gweithredu’r CGB/BAP sy’n ymwneud â chynefinoedd arbennig, er mwyn sicrhau y bydd anghenion y rhywogaethau â blaenoriaeth yn cael eu hystyried. Rydym wedi rhannu dyfroedd croyw yn dri o brif gynefinoedd: afonydd a nentydd; llynnoedd; a phyllau. Yna, rydym wedi cysylltu pob rhywogaeth â blaenoriaeth efo’r cynefinoedd y mae’n eu defnyddio, gan nodi beth yw pwysigrwydd y cynefinoedd i’r rhywogaethau. Hefyd, ceir nodiadau cryno’n sôn am unrhyw anghenion penodol yn ymwneud â’r cynefin.

Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth yma mewn nifer o wahanol ffyrdd. Er enghraifft, os oes gennych brosiect ar y gweill i adfer afon, efallai yr hoffech gael rhestr o’r rhywogaethau a fyddai ar eu hennill, fel y gallwch ei chynnwys mewn dogfen gynnig. Hefyd, efallai yr hoffech drefnu eich prosiect mewn modd a fyddai’n rhoi’r help mwyaf i’r rhywogaethau sy’n arbennig o ddibynnol ar y cynefin dan sylw, gan chwilio wedyn am ffyrdd o helpu rhywogaethau sy’n defnyddio’r afon yn achlysurol. O safbwynt rheoli rhywogaethau, gallai’r daenlen eich helpu i ganolbwyntio ar ardaloedd neu fathau o gynefinoedd y mae’r rhywogaethau’n fwyaf tebygol o elwa arnynt.

Gobeithio y bydd hyn oll o fudd ichi – mae croeso ichi anfon sylwadau neu awgrymiadau. Byddwn yn diweddaru’r daenlen yn achlysurol, pan fydd gwybodaeth newydd ar gael. I gael cyngor manwl yn ymwneud â rheoli unrhyw un o’r rhywogaethau a restrir, byddai’n syniad da ichi gysylltu â’r Grŵp Arbenigol ar Rywogaethau.

Hoff gynefinoedd dŵr croyw’r rhywogaethau