Links - General Biodiversity Information
Gwefan Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y Deyrnas Unedig
http://www.ukbap.org.uk/
– Mae’r wefan hon yn cynnal gwaith Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y Deyrnas Unedig (UK BAP) ar ran Partneriaeth Bioamrywiaeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Y Joint Nature Conservation Committee (JNCC)
http://www.jncc.gov.uk/
hwn fydd yn cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar faterion bywyd gwyllt cenedlaethol a rhyngwladol ar ran English Nature, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Scottish Natural Heritage a’r Environment and Heritage Service, De Iwerddon.
The Phenology Network
http://www.phenology.org.uk/
Rhwydwaith yr UK Phenology - ceisio casglu a storio data y Deyrnas Unedig ar Galendr Natur.
Habitat
http://www.habitat.org.uk/
Mae Habitat yn wasanaeth newyddion amgylcheddol a bywyd gwyllt dyddiol o’r Deyrnas Unedig.
Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi – Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth
http://www.hmprisonservice.gov.uk/abouttheservice/environmentalpolicies/
Y Gwasanaeth Carchardai sy’n gyfrifol am reoli ail ystâd fwyaf y llywodraeth ar ôl Ystâd y Gwasanaeth Amddiffyn. Mae cyfoeth o fywyd gwyllt yn byw o amgylch adeiladau carchar unigol, yn y wlad a’r dref, ac mae yna nifer o safleoedd wedi eu dynodi’n genedlethol neu’n lleol, fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ar y tiroedd. O dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae gan y Gwasanaeth rwymedigaeth i reoli’r safleoedd yma yn sensitif er mwyn diogelu cyfoeth arbennig pob safle. Dangosodd arolygon bod nifer o rywogaethau cenedlaethol bwysig i’w cael ar y tiroedd, fel y pathew, y dyfrgi a sawl rhywogaeth o ystlumod. O ganlyniad i hyn mae’r Gwasanaeth Carchardai wedi rhoi ar waith ei Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, a gafodd ei lawnsio ar Ionawr 24ain 2005, yn cael ei gefnogi gan ‘Bartneriaeth Ganolog’.
Ystâdau’r Weinyddiaeth Amddiffyn
http://www.defence-estates.mod.uk/conservation_enviro/conservation/2_biodiversity.htm
Mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ddyletswydd cyfreithiol a moesol, ac ymrwymiadau cryf, hirhoedlog, i ystyried bioamrywiaeth lle bynnag y bo’n digwydd.
Gwnewch Le i Fywyd Gwyllt
http://www.valeofglamorgan.gov.uk/living/environment/biodiversity.aspx
Cyfres o daflenni a luniwyd gan dîm bioamrywiaeth Bro Morgannwg, Cynghorau Cymunedol a Threfol a’r cyhoedd yw Gwnewch Le i Fywyd Gwyllt. Y nod cynorthwyo pobl i gyfoethogi, creu a rheoli ardaloedd er budd bywyd gwyllt. Mae pob taflen yn llawn dop o syniadau ymarferol, er enghraifft sut i wneud dolydd blodau gwyllt a sut i adeiladu blychau adar a chartrefi i ddraenogod. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch Richard May ar 01446 704855. Cliciwch ar y cyswllt i lawrlwytho’r taflenni: