Cymerwch rhan
Enw  
Dewiswch eich Addewid
Fy addewid personol i
Sylwadau
  Chydig o wybodaeth
Cyfeiriad Ebost   
Cyfeiriad Adref  
Dewiswch eich Awdurdod lleol

Gwadiad

Gwasnaneth rhad ac am ddim yw hon. Bydd PBC a'ch Awdurdod Lleol yn dal eich manylion ar gyfer pwrpas Ymgyrch Addewid Dros Natur yn unig
 

 

Cymerwch rhan

Gwnewch wahaniaeth heddiw

Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar fioamrywiaeth i gymryd rhan… mae rhoi help llaw i fyd natur o fewn cyrraedd pawb! Gall gwneud pethau syml a hawdd wneud gwahaniaeth mawr i fywyd gwyllt. A phe byddai pob un ohonom yn gwneud un peth bach syml, gyda’n gilydd fe wnaem wahaniaeth mawr.

Sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth

Gwnewch eich gorau i hyrwyddo bywyd gwyllt, yn eich cartref, yn eich gwaith ac yn eich cymuned. Gall y sefydliadau sy’n bartneriaid i ni roi syniadau a chyfleoedd gwych i chi gymryd y camau cyntaf. Dewch i wybod peth sy’n digwydd yn eich bro; edrychwch ar wefan eich awdurdod lleol a’ch parc cenedlaethol am fwy o fanylion. Rhowch gynnig ar y gweithgareddau isod i gael blas o’r hyn sydd gan fywyd gwyllt i’w gynnig! Angen cyngor ymarferol? Ewch i wefan Wild About Gardens am fwy o wybodaeth.

  • Plannwch goed a phlanhigion brodorol yn eich gardd
  • Defnyddiwch gyn lleied â phosibl o blaladdwyr, neu ddim o gwbl
  • Crëwch lyn
  • Gadewch i bentyrrau o goed bydru
  • Crëwch lefydd bwydo i adar a phryfed
  • Crëwch bentwr compost
  • Crëwch safle nythu a llochesi ar gyfer bywyd gwyllt
  • Gosodwch gasgen ddŵr i gasglu dŵr glaw ar gyfer planhigion
  • Cefnogwch waith asiantaethau diogelu bywyd gwyllt yn eich ardal trwy roi cyfraniad, gwirfoddoli neu siarad o’u plaid

Gwnewch Le i Fyd Natur

Mae gan BBC Breathing Places syniadau gwych ar gyfer torchi eich llewys a chreu eich cornel natur eich hun – ar stepen eich drws. Does dim angen llawer o le nac amser arnoch, ewch allan gyda’ch plant, eich ffrindiau, eich teulu, eich cymdogion neu ar eich pen eich hun, a chael hwyl yn rhannu lle gyda byd natur. Bydd yn rhoi rhywle i chi gael eich gwynt atoch. Dydi o byth yn ddiflas, ac os ydych chi’n garedig wrth fyd natur bydd byd natur yn garedig wrthych chi. Felly lle’r ydych chi am wneud lle i anadlu?  

Gallwch greu ardal mor fawr neu mor fach ag y dymunwch ar gyfer bywyd gwyllt ac mae’r taflenni Gwneud Lle i Fywyd Gwyllt a gynhyrchwyd gan dîm ecoleg Bro Morgannwg yn lle gwych i gychwyn. Mae pob un yn llawn i’r ymylon o syniadau ymarferol, o greu dôl o flodau gwyllt i adeiladu bocsys nythu a chartrefi ar gyfer draenogod.

Archwiliad o Fioamrywiaeth y Gymuned

Mae’n bosib mai cynnal archwiliad o fioamrywiaeth y gymuned fydd un o’r prosiectau mwyaf gwerthfawr y bydd eich cymuned leol yn ei gyflawni fyth. Gellir gwneud defnydd da o’r wybodaeth y bydd eich cymuned yn ei chasglu er mwyn gwella eich amgylchedd lleol a bywydau’r bobl sy’n byw yno. Mae modd i chi lawrlwytho llawlyfr am fioamrywiaeth i’ch helpu gyda’r broses archwilio. Bydd cymryd rhan yn newid bywydau am byth ac yn cynyddu gwybodaeth eich cymuned am ei threftadaeth naturiol. Ewch i wefan Siopau Gwyddoniaeth Cymru i ddysgu mwy am y ffordd y gallwch gymryd rhan.

Ymgynghoriadau

Caiff nifer o’r ymarferion ymgynghori sy’n effeithio ar yr amgylchedd eu rhedeg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Gallwch gymryd rhan mewn ymgynghoriadau sy’n cael eu cynnal er mwyn ceisio barn pobl a sefydliadau ynghylch yr hyn mae’r llywodraeth yn cynnig ei wneud. Byddai’n werth chweil i chi fwrw golwg dros y safle yn rheolaidd i gael gwybod y diweddaraf am ymgynghoriadau a gaiff eu cynnal yn y dyfodol.

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Ymgynghoriadau Llywodraeth y Cynulliad - Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad
Ynni'r Llanw ar Afon Hafren

DEFRA

Ymgynghoriad ar Adolygiad Pum Mlynedd Atodlenni 5 ac 8 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

Mae’r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur wedi cynnal adolygiad o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn am eu hargymhellion i ddiwygio’r rhestr o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion sy’n cael eu gwarchod gan y Ddeddf. Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ymatebion yw 20fed Ebrill.

http://www.defra.gov.uk/corporate/consult/wildlife-act/index.htm

Yr UE

Nid oes dim i sôn amdano ar hyn o bryd. Gallwch weld yr holl ymgynghoriadau agored a’r ymatebion a gafwyd o ddigwyddiadau ymgynghori blaenorol yn y cyfeiriad canlynol ar y we:
http://ec.europa.eu/environment/consultations_en.htm.

Ymgynghoriadau Eraill

Ebost:
Allweddair:
Gyrrwch y cyfrinair