|
‘It’s Up to Us’ - Mae’r cyfan yn ein dwylo ni: dyma yw neges ffilm y ganolfan ECO. Mae ffilm a wnaed yn Sir Benfro yn herio plant yn eu harddegau ar hyd a lled Cymru i ystyried y dewisiadau sy’n ein hwynebu o ran newid hinsawdd. Ffilm ddwyieithog yw ‘Mae fyny i ni’ a gynhyrchwyd gan gwmni o Sir Benfro o’r enw ANIMALITY Productions ar gyfer Canolfan ECO Cymru. Dyma ran o brosiect Newid Hinsawdd Canolfan ECO Gorllewin Cymru a lansiwyd yn 2007 gan Jane Davidson, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, ac mae wedi sefydlu’r Ganolfan ECO fel prif gynhyrchydd adnoddau Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Ceir mwy o wybodaeth a chlipiau ar www.climatechangewales.org.uk/public/?id=55
Mae’r DVD ar gael yn rhad ac am ddim i sefydliadau addysgol ar hyd a lled Cymru, neu gall y cyhoedd ei brynu am £5. I archebu copi, cysylltwch â Tim Brew, 01239 821903, tim@ecocentre.org.uk.
|