CGB Lleol yng Nghymru
Mae pasio Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CROW) 2000 drwy’r senedd, a’r ffaith fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar restr o rywogaethau a chynefinoedd o’r pwysigrwydd blaenaf yng Nghymru (rhestr HSPI), wedi darparu’r cynhaliaeth statudol yr oedd ei hangen yn fawr ar Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU. Tra bod y Cynulliad yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros ddiogelu mwy ar rywogaethau a chynefinoedd sydd ar y rhestr gyhoeddedig, bydd y canolbwynt ar gyfer gweithredu i’w gael trwy baratoi a gweithredu cynlluniau lleol mewn partneriaethau.
Cynlluniau gweithredu lleol sydd wrth wraidd llawer o broses y CGB, gan sicrhau bod y strategaeth genedlaethol yn cael ei throi yn weithredu effeithiol ar lefel leol a bod targedau cenedlaethol ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd yn cael eu cyrraedd ledled y DU.
Mae codi ymwybyddiaeth ynglŷn â bioamrywiaeth a deall materion cadwraeth perthnasol hefyd yn cael eu cydnabod fel rhan allweddol o broses y CGB. Mae partneriaethau CGB yn lleol hefyd mewn lle da ar gyfer rhoi’r gwaith hwn ar waith o fewn yr ardal, a gallant gysylltu â’r cymunedau, y partneriaid a’r ymwelwyr lleol i’r ardal.
Mae Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol i’w cael drwy Gymru gyfan, gyda chynllun wedi’i gyhoeddi neu gynllun drafft i’w gael ymhob un o’r 24 ardal. Mae’r rhan fwyaf o’r grwpiau bellach wedi cyhoeddi eu Cynlluniau, a’u lansio’n swyddogol. Roedd y lansiadau diweddaraf yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Merthyr Tudful.
Adolygiad CGBLl
Fel arfer, caiff y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol ei adolygu bob pum mlynedd, ac mae nifer o awdurdodau lleol a Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru yn gwneud cynnydd da o ran cyrraedd y targed ar gyfer 2008. Mae PBC wedi llunio canllawiau er mwyn helpu partneriaethau CGBLl drwy’r broses adolygu. Cliciwch ar y cyswllt i weld y ddogfen.
Adnoddau CGBLl
Pecyn Cyflwyno i Gydlynwyr Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol
Pecyn yw hwn ar gyfer cydlynwyr bioamrywiaeth lleol sydd newydd ddechrau yn y swydd, a’r nod yw cynnig braslun iddynt o’r swyddogaethau a’r prosesau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau bioamrywiaeth yng Nghymru.
Pecyn Cyflwyno
Canllawiau BARS wedi’u diweddaru
Yn ddiweddar, mae’r canllawiau wedi’u diweddaru a byddant yn cael eu cynnwys fel rhan o’r llawlyfr CGBLl. Ar ôl i’r llawlyfr yma gael ei gwblhau, bydd yn disodli’r pecyn cyflwyno ar gyfer cydlynwyr.
Mae’r canllawiau’n cynnwys camau gweithredu annibynnol ac arweiniad ar arferion gorau.
Canllawiau BARS
Adnoddau Ychwanegol
Taflen ‘Make Space for Wildlife’
Gellir addasu’r taflenni atyniadol ac addysgiadol yma ar gyfer eu defnyddio o fewn eich Awdurdod Lleol/Parc Cenedlaethol. Mae cyfanswm o 9 o daflenni ar gael, a cheir enghraifft isod. Os hoffech chi gael pecyn taflenni, defnyddiwch yr adran ‘cysylltu’.
Taflen ‘Make Space for Wildlife’
Cynllunio Cyfarfodydd Effeithiol
Ydych chi angen cymorth i redeg cyfarfodydd CGBLl? Mae’r arweiniad hwylus yma’n cynnig awgrymiadau da ar wneud yn fawr o bob cyfarfod. Mae croeso ichi gyflwyno sylwadau neu awgrymiadau ychwanegol.
Cynllunio Cyfarfodydd Effeithiol
Is-benawdau ar gyfer ymgyrchoedd
Mae ymgyrchoedd bioamrywiaeth angen teitlau bachog! Dyma rai i danio’ch dychymyg – mae croeso ichi anfon eich awgrymiadau atom!
Sloganau Bioamrywiaeth
Dolenni
Arweiniad ar Adolygu CGBLl