Arbennigo
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
http://www.gardenofwales.org.uk/
Croeso i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yr ardd fotaneg genedlaethol gyntaf i’w chreu yn y mileniwm newydd. Eleni yw ein pumed pen-blwydd. Mewn cyfnod mor fyr, rydym wedi datblygu i fod yn un o’r gerddi mwyaf cyfareddol yn y DU. Eisoes mae gennym yr ardd yr ymwelir â hi amlaf yng Nghymru ac rydym yn helpu i warchod rhai o’r planhigion mwyaf prin yn y byd. Edrychwch o gwmpas y safle i ddarganfod mwy amdanom.
Natural History Museum (NHM)
http://www.nhm.ac.uk/nature-online/biodiversity/
Darganfyddwch pam fod bioamrywiaeth y byd o dan fygythiad a beth fydd yn digwydd inni fel y mae bioamrywiaeth yn lleihau. Hefyd, cewch ddarganfod y problemau sy’n codi wrth geisio ei fesur, a sut mae gwaith yr amgueddfa yn cynorthwyo yn yr astudiaeth a chadwraeth o fioamrywiaeth.
NHM Nature Navigator – a guide to British wildlife names
http://www.nhm.ac.uk/nature-online/biodiversity/nature-navigator/
Archwiliwch fywyd gwyllt Prydain ac edrychwch ar weithiau celf o gasgliadau’r Amgueddfa Hanes Naturiol.
The Phenology Network
http://www.phenology.org.uk/
Rhwydwaith Ffenoleg y DU – ei bwriad yw casglu a storio holl ddata’r DU ar Galendr Natur.
Encyclopedia of Marine Life of Britain and Ireland
http://www.habitas.org.uk/marinelife/
Mae’r canllaw ffotograffig hwn yn ymdrin â detholiad o’r anifeiliaid mwy sy’n byw o amgylch glannau Prydain ac Iwerddon. Fe’i bwriadwyd ar gyfer plymwyr a biolegwyr morol sydd angen gallu adnabod rhywogaethau yn y fan a’r lle ac felly nid yw’n ganllaw cynhwysfawr i bob rhywogaeth. Yn y Cyfeiriadur Rhywogaethau gallwch chwilio am rywogaethau drwy eu henw. Mae hon yn rhestr lawn o rywogaethau a gysylltir â chynefinoedd morol ym Mhrydain ac Iwerddon.
Amgueddfa Genedlaethol Cymru
http://www.museumwales.ac.uk/en/biosyb/?display_mode=low
BioSyB' yw’r enw newydd sy’n cyfuno dwy o adrannau cychwynnol ein hamgueddfa, Botaneg a Sŵoleg, gan ei fod yn egluro’r hyn a wnawn yn fwy cywir: enwi planhigion ac anifeiliaid, ac astudio eu dosbarthiad, eu hanes esblygol, eu ffurf a’u strwythur a phob agwedd ar ffisioleg, geneteg, biocemeg, ymddygiad a bioleg moleciwlaidd.
Y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC)
http://www.nerc.ac.uk/
Mae NERC yn ariannu gwyddoniaeth o safon byd-eang mewn prifysgolion a’n canolfannau ymchwil ein hunain sy’n gwella gwybodaeth a dealltwriaeth am y byd naturiol. Rydym yn mynd i’r afael â phrif broblemau amgylcheddol yr unfed ganrif ar hugain fel newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth a pheryglon naturiol. Rydym yn arwain ar ddarparu ymchwil annibynnol a hyfforddiant yn y gwyddorau amgylcheddol.
Centre for Ecology and Hydrology (CEH)
http://www.ceh.ac.uk/
Y ganolfan hon yw Canolfan Ragoriaeth y DU ar gyfer ymchwil yn y gwyddorau tir a dŵr croyw. Mae gan staff CEH sgiliau arbenigol mewn ystod eang o bynciau amgylcheddol, yn amrywio o’r raddfa leiaf (y gennyn) i’r raddfa fwyaf (systemau Daear gyfan).
Yr Arolwg Antartig Prydeinig (BAS)
http://www.antarctica.ac.uk/
Mae’r Arolwg yn rhan o’r Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol. Mae wedi ei leoli yng Nghaergrawnt lle y mae wedi bod yn gwneud y rhan fwyaf o ymchwil gwyddonol Prydain ar neu o amgylch cyfandir yr Antartig ers bron i 60 mlynedd.
Y Sefydliad Sŵoleg
http://www.zoo.cam.ac.uk/ioz/
Dyma adran ymchwil ZSL, sy’n arbenigo mewn materion gwyddonol sy’n berthnasol i gadwraeth rhywogaethau anifeiliaid a’u cynefinoedd.
Biota
http://www.bioimages.org.uk/html/T1.HTM
Cronfa ddata o lenyddiaeth, dolenni gwe, ffotograffau ac ymchwil. Yn defnyddio dosbarthiad gwyddonol.