Y Byd
Ym 1992, daeth arweinwyr cenhedloedd y byd ynghyd i osod agenda uchelgeisiol i gwrdd â’r sialensiau amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol sy’n wynebu’r gymuned ryngwladol. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn, y cyfarfod mwyaf erioed rhwng arweinwyr y byd, yng Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Amgylchedd a Datblygiad yn Rio de Janeiro ym Mrasil ym 1992.
Arwyddwyd set o gytundebau hanesyddol yn ‘Uwchgynhadledd y Byd’, gan gynnwys dau gytundeb gorfodol, y Cytundeb ar Newid yn yr Hinsawdd, sy’n targedu gollwng nwyon tŷ gwydr megis carbon deuocsid yn ddiwydiannol ac mewn ffyrdd eraill, a Chytundeb Amrywiaeth Biolegol (http://www.biodiv.org/doc/publications/guide.asp), y cytundeb byd-eang cyntaf ar gadwraeth a defnydd cynaliadwy o amrywiaeth biolegol.
Cafodd y cytundeb bioamrywiaeth ei dderbyn yn gyflym ac yn eang. Arwyddodd dros 150 o lywodraethau’r ddogfen yng nghynhadledd Rio, ac ers hynny mae 175 o wledydd wedi cadarnhau’r cytundeb.
Mae gan y Cytundeb dri o brif nodau:
- Gwarchod bioamrywiaeth;
- Defnydd cynaliadwy o gydrannau bioamrywiaeth, a
- Rhannu’r buddion a ddaw yn sgîl defnydd masnachol a defnydd arall o adnoddau genetig mewn modd teg a chyfiawn.
Mae’r Cytundeb ar Amrywiaeth Biolegol, fel cytundeb rhyngwladol, yn nodi problem gyffredin, yn gosod nodau a pholisïau cyflawn a rhwymedigaethau cyffredin, ac yn trefnu cydweithredu technegol ac ariannol. Serch hynny, mae’r cyfrifoldebau dros gyflawni’r nodau hyn yn gorwedd yn bennaf gyda’r gwledydd eu hunain
Ewrop
Mae’r Gymuned Ewropeaidd wedi arwyddo Cytundeb Amrywiaeth Biolegol 1992. Mae ganddi Gynllun Bioamrywiaeth ac mae’n cynhyrchu adroddiadau rheolaidd i Gytundeb y Pleidiau.
Mae’r Strategaeth, a gyhoeddwyd ym 1999, yn datgan: ‘Mae bioamrywiaeth yn hanfodol i gynnal bywyd ar y Ddaear ac mae ganddo werthoedd cymdeithasol, economaidd, gwyddonol, addysgol, diwylliannol, adloniadol ac esthetaidd pwysig’. Aiff ymlaen i drafod gwerth bioamrywiaeth ar gyfer datblygiad nifer o brosesau diwydiannol, cynhyrchu moddion newydd a hyfywedd amaethyddiaeth a physgodfeydd ar gyfer bwyd yn y dyfodol.
Pwrpas y Strategaeth yw achub y blaen, atal ac ymosod ar yr achosion sy’n arwain at golli bioamrywiaeth yn ei fan cychwyn, gwrth‑droi’r tueddiadau presennol o ran lleihau neu golli bioamrywiaeth, a dod â rhywogaethau ac ecosystemau, gan gynnwys agro-ecosystemau, i statws cadwraeth boddhaol, o fewn tiriogaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE) a thu hwnt.
Mae’r Strategaeth yn cael ei chynnal gan gynlluniau gweithredu thematig – ar gyfer adnoddau naturiol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, datblygiad economaidd a chydweithredu; arweinir y cynlluniau hyn gan y sectorau perthnasol.
Mae’r Strategaeth a’r Cynlluniau Gweithredu yn cyflenwi gwaith yr Aelod Wladwriaethau ar eu strategaethau bioamrywiaeth cenedlaethol eu hunain ac maent yn darparu fframwaith ar gyfer gweithredu ar draws yr Undeb Ewropeaidd.
Ym 1998, daeth y Cyngor Ewropeaidd ynghyd yng Nghaerdydd er mwyn dechrau proses (a elwir yn broses Caerdydd) ar integreiddio ystyriaethau amgylcheddol, gan gynnwys bioamrywiaeth, o fewnewn swyddogaethau adrannol allweddol. Mae neges y Comisiwn Ewropeaidd, ‘ Ewrop Gynaliadwy am Fyd Gwell’ (2001) yn gosod targed i atal lleihad mewn bioamrywiaeth yn yr Undeb Ewropeaidd erbyn 2010.