Partneriaeth Bioarywiaeth

Natur Cymru

http://www.naturcymru.org.uk/index.htm

– Mae ‘Natur Cymru' yn gylchgrawn bywyd gwyllt ac amgylchedd sydd ar gael trwy danysgrifiad, ac yn cael ei gefnogi gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a saith o gyrff eraill.


 

BTCV Cymru

http://www.btcvcymru.org/

– BTCV ydi’r elusen amgylcheddol fwyaf yn y Deyrnas unedig. Cafodd ei sefydlu yn 1959, a bydd yn helpu dros 130,000 o wirfoddolwyr bob blwyddyn i wneud gwaith ymarferol i wella’r amgylchedd gwledig a’r amgylchedd trefol.


 

Association of Local Government Ecologists (ALGE)

http://www.alge.org.uk

Mae’r Association of Local Government Ecologists yn cynrychioli ecolegwyr proffesiynol sy’n gweithio o fewn llywodraeth leol yn y DU. Ar y cyd ag eraill, mae ALGE yn cefnogi ac yn datblygu gwaith awdurdodau lleol ym maes gwarchod natur.


 

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

http://www.pembrokeshirecoast.org.uk/

Dyma’r unig barc cenedlaethol ym Mhrydain sy’n wirioneddol arfordirol. Mae’n dirwedd drawiadol o greigiau garw, traethau euraidd, aberoedd coediog a mynyddoedd gwyllt tua’r tir, ac yn lloches ar gyfer bywyd gwyllt. Mae yna le i bobl yma, hefyd. Nhw sydd wedi llunio’r dirwedd dros y canrifoedd, gan adael eu hôl ar feddrod a chastell, ar groes ac ar fwthyn, ar chwarel a chei.


 

Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC)

http://www.ccw.gov.uk

Cyngor Cefn Gwlad Cymru yw cynghorwyr statudol y Llywodraeth ar gynnal harddwch naturiol,bywyd gwyllt a’r cyfle i fwynhau cefn gwlad Cymru a dyfroedd ei glannau. Y Cyngor yw’r awdurdod cenedlaethol ar gadwraeth bywyd gwyllt.


 

English Nature (EN)

http://www.english-nature.org.uk/

Yn gweithio mewn partneriaeth i gyfoethogi a gwarchod ein tirwedd a’n hamgylchedd naturiol, i hybu mynediad a hamdden yng nghefn gwlad yn ogystal â lles y cyhoedd, ar hyn o bryd ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.


 

Scottish Natural Heritage (SNH)

http://www.snh.org.uk/

Ein gwaith yw hyrwyddo gwarchod a chyfoethogi treftadaeth naturiol yr Alban, sef y bywyd gwyllt, y cynefinoedd a’r tirwedd sydd wedi datblygu yn Yr Alban drwy gyfrwng y bartneriaeth hir rhwng pobl a natur.


 

Gwasanaeth Amgylchedd a Threftadaeth (EHSNI)

http://www.ehsni.gov.uk/

Ein nod yw gwarchod a diogelu’r amgylchedd naturiol a’r amgylchedd adeiledig, gan hyrwyddo gwerthfawrogiad ohonynt er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.


 

Royal Society for the Protection of Birds (RSPB)

http://www.rspb.org.uk

Elusen o fewn y DU yw’r RSPB, ac mae’n gweithio i gael amgylchedd iach i adar a bywyd gwyllt, gan gynorthwyo i greu byd gwell i bob un ohonom.


 

Comisiwn Coedwigaeth Cymru

http://www.forestry.gov.uk

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn gweithredu fel Adran Goedwigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn gweithredu’n uniongyrchol fel stiwardiaid 38% o goetiroedd Cymru sydd ym mherchnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Ein cenhadaeth a’n Cynllun Corfforaethol yw helpu cyflawni Coed Campus Cymru Campus.


 

Cyswllt Amgylchedd Cymru

http://www.waleslink.org/

Rhwydwaith i gyrff gwirfoddol amgylcheddol a chefn gwlad nad ydynt yn llywodraethol gyda chyfrifoldeb am Gymru yw Cyswllt Amgylchedd Cymru.


 

Undeb Amaethwyr Cymru

http://www.fuw.org.uk

Un nôd sylfaenol sydd gan Undeb Amaethwyr Cymru sef amddiffyn a gweithredu ar ran buddiannau amaethwyr Cymru. Yn Undeb annibynnol gyda’r hawl a’r rhyddid i weithredu drosti ei hun, fe all UAC ddatgan safbwyntiau ffermwyr Cymru yn ddi-duedd, ac yn ddiymatal rhag materion adrannol.


 

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru

http://www.nationaltrust.org.uk/main/w-global/w-localtoyou/w-wales.htm

O’r pentir bychan cyntaf a gafwyd, mae’r Ymddiriedolaeth bellach yn gwarchod amrywiaeth ryfeddol o dirluniau arfordirol, cefn gwlad a hanesyddol. Caiff ein heiddo ei reoli er budd y cyhoedd. Bob diwrnod, mae staff, gwirfoddolwyr a thenantiaid yn ymdrechu i ddarparu mannau agored y gall pobl eu mwynhau, gan ddarparu cynefinoedd i fywyd gwyllt a gwella ein hamgylchedd.


 

Dŵr Cymru

http://www.dwrcymru.com/

Mae Dwr Cymru yn gwmni wedi’i reoleiddio sy’n darparu cyflenwad dwr a gwasanaethau carthffosiaeth i dros dair miliwn o bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru a rhai ardaloedd cyfagos yn Lloegr. Mae gennym 1.2 miliwn o gwsmeriaid cartref a thros 110,000 o gwsmeriaid busnes. O’r 23 cwmni dwr sydd wedi’u rheoleiddio yng Nghymru a Lloegr, ni yw’r chweched mwyaf o ran maint.


 

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

http://www.eryri-npa.co.uk/

Croeso i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Eryri yn un o unarddeg Parc Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr, ac ef hefyd yw’r mwyaf oni bai am Ardal y Llynnoedd. Fe’i sefydlwyd yn 1951, ac yn 2001, dathlodd hanner can mlynedd o fod yn ardal dan warchodaeth.


 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

http://www.wlga.gov.uk/

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynrychioli buddiannau awdurdodau lleol Cymru. Mae’r tri awdurdod tân ac achub, pedwar awdurdod yr heddlu ac awdurdodau’r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.


 

Amgueddfa Genedlaethol ac Orielau Genedlaethol Cymru

http://www.nmgw.ac.uk/

Sefydlwyd AOCC drwy Siarter Frenhinol ym 1907 fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Y mae AOCC, sy’n elusen gofrestredig annibynnol, yn derbyn ei ariannu craidd drwy gymorth grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel Corff a Noddir gan y cynulliad. Y mae ei weithgaredd craidd yn cynnwys datblygu, gofalu am, astudio a chynnal mynediad i’w gasgliadau er budd cymdeithas yn ddiderfyn. Y mae’r Siarter (1907, diwygiwyd 1991) yn datgan fod hyn i’w wneud fel a ganlyn:

yn bennaf drwy ddarlunio?n llwyr ddaeareg, mwynyddiaeth, swoleg, botaneg, ethnograffeg, archeoleg, celfyddyd, hanes a diwylliannau arbennig Cymru drwy gasglu, diogelu, egluro, cyflwyno a chyhoeddi gwrthrychau a phethau.


 

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (BBNPA)

http://www.breconbeacons.org/

Mae yna Barciau Cenedlaethol ledled y byd, wedi eu dynodi gan bob cenedl i ddiogelu eu tirwedd harddaf. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yng Nghanolbarth Cymru. Mae’n cynnwys rhai o’r ffurfiannau ucheldir mwyaf trawiadol a neilltuol yn ne Prydain, ac mae’n gorchuddio ardal o 1347 o gilomedrau sgwâr (520 milltir sgwâr).


 

Stadau Amddiffyn Y Weinyddiaeth Amddiffyn

http://www.defence-estates.mod.uk/conservation_enviro/conservation/2_biodiversity.htm

Mae gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn ddyletswydd gyfreithiol a moesol, ac ymrwymiadau cryf, sydd yn bod ers tro, i barchu bioamrywiaeth ble bynnag y bo.


 

National Farmers’ Union of Wales (NFU Cymru)

http://www.nfu-cymru.org.uk/

Mae gan NFU Cymru hyd at 15,000 o aelodau yng Nghymru, ac rydym yn cynrychioli’r mwyafrif o ffermwyr yn y wlad. Mae ymaelodi â’r Undeb yn wirfoddol ac rydym yn hunan gynhaliol.


 

South Wales Sea Fisheries Committee (SWSFC)

http://www.swsfc.org.uk/

I reoli ac i fwyhau pysgodfeydd mor Mewnlannol De a Dwyrain Cymru mewn mod fydd yn sicrhau eu cynhaliaeth hir dymorol mewn cydbwysedd a’r amgylchfyd morol eang.


 

Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru

http://www.nwnwsfc.org/

Cyrff rheoli bysgodfeydd lleol yw’r Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr (PPM) ac y maent yn annog, yn cynnal ac yn rheoli gweithgareddau’r pysgodfeydd môr hyd at 6 môr filltir o’r lan. Fe’u sefydlwyd yn ystod y 1890au ac fe’u rheolir hwynt ar hyn o bryd, o dan y Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966. Mae’r PPM yn gorfodi deddfwriaeth Cenedlaethol a deddfwriaeth yr UE, ac yn gwneud a gorfodi is-ddeddfau lleol. Mae nifer o’r Pwyllgorau hefyd yn rantïon Gorchmynion Arwahanol a Gorchmynion Rheoleiddio sydd wedi eu hanelu at ddatblygu a rheoli meithrin pysgod cregyn. Mae’r PPMGOLL&GC yn gweithredu dau Orchymyn o’r fath yn Afon Menai ac yn aber Afon Conwy. Mae’r Gorchmynion hyn yn sail i’r busnes meithrin cregyn gleision mwyaf yn y DG.


 

Rhwydwaith ARENA

http://www.arenanetwork.org/

Sefydliad annibynnol yw Rhwydwaith ARENA, ac mae’n cynnig cefnogaeth ymarferol i fusnesau a sefydliadau eraill ar faterion rheoli amgylcheddol


 

Department of the Environment and Rural Affairs (DEFRA)

http://www.defra.gov.uk/wildlife-countryside/index.htm

Gwybodaeth am waith Defra ar gadwraeth bywyd gwyllt a thirwedd, ac ar hamdden cefn gwlad. Ein amcanion yw gwella mwynhad cefn gwlad atyniadol ac wedi’i reoli’n dda i bawb a chadwraeth effeithiol bywyd gwyllt. Mae hyn yn cydymffurfio ag egwyddorion datblygu cynaliadwy sy’n rhan o’n holl waith.


 

Llywodraeth Cynulliad Cymru

http://www.countryside.wales.gov.uk/fe/master.asp?n1=3&n2=261

Mae tudalennau we Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad Llywodraeth Cymru’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am ddeddfwriaethau amgylcheddol. Hefyd, mae adran fioamrywiaeth o fewn y tudalennau cadwraeth:


 

Natural England

http://www.naturalengland.org.uk/

Mae Natural England yn gweithio dros bobl, lleoedd a natur i gadw a gwella bioamrywiaeth, tirweddau a bywyd gwyllt mewn ardaledd gwledig, trefol, arfordiol a morol. Mae Natural England yn casglu at ei gilydd English Nature, y Countryside Agency a’r Rural Development Service.


 

Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad (CLA)

http://www.cla.org.uk/

Mae Cymru’n wlad ifanc, ddeinameg gyda hanes balch ac mae CLA Cymru’n brysur adlewyrchu’r newidiadau mewn cefn gwlad. Mae ffyniant yn fater hynod o bwysig mewn ardal lle mae 80% o’r tir ‘dan anfantais’ a lle mae 700 o swyddi ffermio wedi diflannu dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae pentrefi, ysgolion, eglwysi, capeli a’r iaith i gyd yn dibynnu ar elw yng nghefn gwlad.


 

Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt

http://www.wildlifetrusts.org/

Mae 47 Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt lleol ar draws y DU, Ynys Manaw ac Alderney. Rydym yn gweithio i sicrhau amgylchedd sy’n gyfoethog mewn bywyd gwyllt ar gyfer pawb. Gyda 670,000 o aelodau, ni yw’r mudiad gwirfoddol mwyaf yn y DU sy’n ymroddedig i gadw ystod llawn o gynefinoedd a rhywogaethau’r DU. Mae 108,000 o’n haelodau’n perthyn i’n cangen ieuenctid, Wildlife Watch.


 

Cymdeithas y Cerddwyr

http://www.ramblers.org.uk/

Ni yw elusen cerdded fwyaf Prydain. Rydym wedi bod yn gweithio am dros 70 mlynedd i hybu cerdded ac i wella amodau i bawb sy’n cerdded yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.


 

Coed Cymru

http://www.coedcymru.org.uk

Mae Coed Cymru yn fenter Cymru gyfan i hybu rheoli coetiroedd llydanddail a’r defnydd o bren caled wedi’i dyfu’n lleol yng Nghymru.


 

PONT

http://www.grazinganimalsproject.org.uk/contact_pont.html

Consortiwm o sefydliadau yw PONT sy’n gweithio gyda ffermwyr a phorwyr yng nghefn gwlad Cymru er mwyn sicrhau bod buddion yn dod i ran bywyd gwyllt trwy gael systemau rheoli integredig, ymarferol a chynaliadwy.

Gall unrhyw un neu unrhyw gorff sy’n cynrychioli ffermwyr a phorwyr, neu sy’n gweithio efo nhw er mwyn sicrhau bod buddion yn dod i ran bywyd gwyllt yn sgil pori yng nghefn gwlad Cymru trwy gael systemau rheoli integredig, ymarferol a chynaliadwy, ymaelodi efo PONT.