Nid yw’r grŵp yn weithredol bellach ac nid yw gwybodaeth ar y dudalen hon yn gyfoes. Fe’i dangosir at ddibenion cyfeirio yn unig.

Dyma'r dudalen wybodaeth ar gyfer Grŵp Ecosystem Dinesig a Thir Llwyd PBC. Mae gweithgareddau Grŵp Ecosystem Dinesig a Thir Llwyd yn ymwneud ag Adran 7 cynefinoedd â blaenoriaethau yng Nghymru, fel a ganlyn: Brithwaith o gynefinoedd agored ar dir a oedd cynt wedi ei ddatblygu

Cyfeirir at gynefin â blaenoriaeth mewn lleoliad trefol fel Cynefin Clytwaith Agored ar Dir a Ddatblygwyd o'r Blaen. Mae Cynefin Clytwaith Agored i'w gael ar safleoedd sydd wedi eu datblygu o'r blaen neu safleoedd lle mae'r tir wedi ei droi o'r blaen. Mae'n glytiog yr olwg gyda pheth lystyfiant, ac mae'n cynnwys llecynnau o ddaear noeth – rhywfaint o lecynnau noeth mewn ambell le, mwy mewn lleoedd eraill. Gwelir ef yn bennaf ar dir trefol a thir a arferai fod yn ddiwydiannol, ond mae hefyd i'w gael y tu allan i'r ardaloedd hyn mewn chwareli ac ar gilffyrdd rheilffyrdd ac ati. Mae ailddatblygu'r tir, ei droi'n safle tirlenwi, ewtroffigedd, dulliau amhriodol o'i reoli neu ei 'adfer' ac olyniaeth naturiol yn bygwth ei ddifrodi a'i ddirywio. Ychydig o safleoedd Cynefin Clytwaith Agored a gaiff eu gwarchod ar ffurf Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu warchodfeydd natur.

Mae'r cynefin hwn yn cynnal poblogaethau o anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac isblanhigion cenedlaethol anfynych. Yn bwysig, mae'n cynnig cyfle i astudio olyniaeth ecolegol, sy'n hynod brin yng nghefn gwlad Cymru, ac mae hefyd yn rhoi cyfle cyntaf i nifer o drigolion dinasoedd a threfi gael profiad uniongyrchol o natur.

Dinesig a Thir Llwyd

Mae Grŵp Trefol a Thir Llwyd PBC ar hyn o bryd yn nodi ardaloedd â blaenoriaeth ar gyfer ymdrechion cadwraethol penodol. Sylw llawn i gynefinoedd Trefol a Thir Llwyd ledled Cymru ym mhob awdurdod lleol yw’r cam nesaf – anfonwch unrhyw ddiweddariadau sydd gennych chi at Pete Frost

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt