Nid yw’r grŵp yn weithredol bellach ac nid yw gwybodaeth ar y dudalen hon yn gyfoes. Fe’i dangosir at ddibenion cyfeirio yn unig.

Dyma'r dudalen wybodaeth ar gyfer Grŵp Ecosystem Gwlyptir PBC. Mae gweithgareddau Grŵp Ecosystem Gwlyptir yn ymwneud ag Adran 7 cynefinoedd â blaenoriaethau yng Nghymru, fel a ganlyn: Ffeniau ar dir isel; Cyforgors ar dir isel; Gwelyau cyrs; Tir pori corslyd ar forfa arfordirol a gorlifdir

Mae cynefinoedd gwlyptir yn cynnwys cyforgorsydd a chorsydd calchog. Mae cyforgorsydd iseldir yn gynefin arbenigol lle ceir dyddodiadau o fawn ar ffurf cromen. Fel arfer mae cynefinoedd o'r fath yn asidaidd ac yn brin o faetholion. Caiff cyforgorsydd eu bwydo fel arfer gan ddŵr glaw, ac mae modd dod o hyd iddyn nhw'n gyffredin mewn pantiau topograffig mewn rhanbarthau oer, gwlyb. Mae corsydd calchog iseldir fel arfer i'w cael ar fawn, ar bridd mawnaidd neu ar bridd mwynol ac maen nhw dan ddŵr naill ai'n barhaol neu'n ysbeidiol.

Gwlyptir

Cynefinoedd Gwlypdir â Blaenoriaeth yng Nghymru

Mae Grŵp Gwlyptiroedd PBC wedi nodi ardaloedd â blaenoriaeth ar gyfer ymdrechion cadwraethol penodol yng Nghymru, a chânt eu rhestru isod. Mae’r map ar gael hefyd ar ffurf GIS. Defnyddiwch yr adran cysylltwch i wneud cais am y ffeiliau.

Daw aelodau’r Grŵp Gwlyptiroedd o gyrff statudol, awdurdodau lleol ac elusennau bywyd gwyllt, a chaiff ei gadeirio gan Peter Jones, Cyfoeth Naturiol Cymru.A oes gennych gwestiwn yn ymwneud â gwaith y grŵp hwn? cysylltwch

Prosiect corsydd Sir Gaerfyrddin

Prosiect Corsydd Sir Gaerfyrddin

Mae partneriaeth dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llwyddo i gael grant o £43,000 o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Gan weithio ar bum comin yng nghyffiniau Brechfa a Llanfynydd, bydd y prosiect - sydd hefyd yn cael cyllid gan Gyfoeth Naturiol Cymru a ninnau - yn ymchwilio i hanes y corsydd, yn dathlu cynefinoedd a rhywogaethau arbennig y corsydd, ac yn cymryd camau i ddiogelu'r cynefinoedd pwysig hyn i'r dyfodol.

Mae corsydd llawr gwlad, sydd wedi cael eu ffurfio dros filoedd o flynyddoedd, yn enghreifftiau mwyfwy prin o gynefin mawnog pwysig, ac mae'r cynefin hwn yn cynnal bywyd gwyllt sy'n arbenigol ond sydd hefyd dan fygythiad. Mae corsydd yn cadw carbon yn y mawn, a phan fo eu cyflwr yn dda maent yn tynnu rhagor o garbon o'r awyrgylch, gan helpu i leihau newid yn yr hinsawdd. Caiff dŵr ei hidlo gan gorsydd a'i ollwng yn araf i nentydd. Yn ddiamheuaeth mae corsydd yn rhan werthfawr o'n hetifeddiaeth gan fod y mawn yn archif byw ac unigryw sy'n gofnod o'r newidiadau sydd wedi bod o ran yr hinsawdd, y llystyfiant a'r dirwedd.

Un o brif amcanion y prosiect yw sicrhau bod cyfleoedd i bobl leol ddysgu rhagor am bwysigrwydd y safleoedd hyn a chydweithio â phartneriaid eraill y prosiect - sef Prifysgol Abertawe, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed - er mwyn ymchwilio i bwysigrwydd cynefinoedd y corsydd hyn o ran ecoleg, o ran diwylliant ac o ran y dirwedd ac er mwyn hyrwyddo'r elfennau hynny. Ein gobaith yw y gallwn gyda'n gilydd ddod o hyd i hanes ein hinsawdd a'n llystyfiant yn lleol, gan ymchwilio i'r modd yr oedd ein hynafiaid yn byw yn y cynefinoedd hyn, ynghyd â rhoi sylw i'w cysylltiadau â newid yn yr hinsawdd, a hynny yn y presennol ac yn y gorffennol.

Bydd y prosiect yn parhau tan fis Rhagfyr 2016, gan roi sylw i'r canlynol:

  • cynnal sesiwn i'r cyhoedd gyda Phrifysgol Abertawe er mwyn codi craidd mawn o un o'r corsydd, ac er mwyn helpu'r gwyddonwyr â'u hymchwiliadau ar y safle.
  • cynnal diwrnod mawn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru lle gall pobl gael golwg fanwl ar samplau mawn drwy ddefnyddio microsgop – gan hoelio sylw ar figwyn hynafol ac ar baill sydd filoedd o flynyddoedd oed - ynghyd â chymryd rhan mewn gweithdy argraffu a gweithdy gweithio crochenwaith Oes yr Efydd, a gwrando ar chwedleuwyr;
  • cydweithio â'r ysgolion lleol ac ymweld â chomin Mynydd Bach i gael golwg ar glwstwr rhyfeddol o feddrodau o Oes yr Efydd, ynghyd â dysgu rhagor am y dirwedd gynhanesyddol ac am y bobl oedd yn byw yno;
  • darparu cyfleoedd i wirfoddolwyr estyn help llaw i'r prosiect a dysgu rhagor am dirwedd hanesyddol y cynefinoedd hyn;
  • creu strimynnau atal tân, cau ffosydd, codi sbwriel, a gwaredu clymog Japan - gan helpu i sicrhau bod y safleoedd yn fwy addas i'w pori ynghyd â'u diogelu rhag llosgi bwriadol.

Wrth i'r prosiect gamu ymlaen ychwanegir rhagor o wybodaeth yn y man hwn.

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt